Landscape                                                                                                                                    

DATGANIAD I’R WASG

 

Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (6 Medi 2016)

 

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, “Buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau trên a seilwaith y rheilffyrdd”. 

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

"Yn y pedwerydd Cynulliad, roedd buddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru a dyfodol masnachfraint rheilffordd Cymru a'r Gororau yn faterion o bwys mawr i Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol.

 

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn manylu ar fuddsoddi sylweddol gan Llywodraeth Cymru mewn prosiectau seilwaith rheilffyrdd ac mewn gwell gwasanaethau yn y blynyddoedd diwethaf, gyda thystiolaeth o welliant cyffredinol mewn gwasanaethau dros oes y fasnachfraint bresennol.

 

"Mae angen gwell tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i ddangos gwerth am arian cyffredinol y buddsoddiad hwn ac mae angen iddi gefnogi'r broses benderfynu yn y dyfodol wrth gynllunio'r gwaith caffael ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau nesaf ochr yn ochr â darparu Metro De Cymru, a hynny cyn i Lywodraeth y DU drosglwyddo swyddogaethau gweithredol ar gyfer masnachfreintiau rheilffyrdd, a ddisgwylir yn 2017.

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law."